Dach chi yma: Hafan > Hanes > Traddodiad Cerddorol Ysbyty Ifan
Traddodiad Cerddorol Ysbyty Ifan
O Ffynnon Ty Nant yn ôl a ni i'r pentref, heibio'r Neuadd ac at yr Eglwys ar y chwith. Ger y fynedfa y mae llechen a gyflwynwyd gan Glwb Ysbytywyr Cymru i ddynodi mai yn y fan hon gynt yr oedd safle Ysbyty ac Eglwys Urdd Marchogion Sant loan o Jeriwsalem. Pan ddaeth Rhyfel Cyntaf y Groes i ben, gorymdeithiodd y Marchogion Cristnogol yn fuddugoliaethus i Gaersalem ar y 15fed o Orffennaf 1099. Yr oedd yn Jeriwsalem ysbyty a fu'n gofalu am dlodion a chleifion y ddinas er y flwyddyn 600 O.C. Mabwysiadwyd yr ysbyty hwn gan garfan o'r Marchogion Cristnogol. A dyma ddechreuad Urdd Marchogion Sant Ioan - Ioan Fedyddiwr - fel delfryd ddisglair i weini cysur i bererinion anghenus. Wedi derbyn sêl bendith y Pab Baldwin 11 yn 1113 tyfodd yr Urdd o nerth i nerth, mewn tir a chyfoeth, a sefydlwyd ysbytai ar hyd a lled Ewrop.
Tua'r flwyddyn 1190 rhoes Ifan ap Rhys o Dre Brys (Plas Iolyn, Pentrefoelas) diroedd i'r Marchogion i sefydlu Ysbyty ac Eglwys yn Nolgynwal. A dyna paham, wrth gwrs, y daethpwyd yn y man i alw Dolgynwal yn Ysbyty Ifan a'r Plwyf yn Dir Ifan.
Yn 1540 difodwyd Urdd Marchogion Sant Ioan a chipiwyd eu tir a'u heiddo gan y Goron. Cynhwysai'r tir hwn erbyn hynny lawer o ystadau yn ymestyn o Aberconwy i'r Bala. Trosglwyddodd y Frenhines Elizabeth Faenor Tir Ifan, yr Ysbyty a'r tiroedd perthynol, i'r Dr Elis Prys, Plas Iolyn.
Ail-adeiladwyd hen Eglwys Ysbyty Ifan yn 1790. Nid oes dim ohoni'n aros bellach ac adeiladwyd Eglwys newydd yn 1861. I mewn i Fynwent yr Eglwys yr awn ninnau yn awr, mynwent bwysig iawn yn hanes Cymru.
Yma y claddwyd Elis Prys, 'Y Doctor Coch'. o Blas Iolyn, a'i fab Tomos Prys, y bardd. Yma hefyd y claddwyd Wiliam Cynwal, pencerdd ac achyddwr. Bu farw rhwng 22 Tachwedd 1587, dyddiad ei ewyllys, a 16 lonawr 1588, pan brofwyd hi. Yr
oedd yn fardd toreithiog. 'Awenyddol yw Gwilym Cynwal', meddai ei hen athro, Gruffydd Hiraethog, amdano. Cofiwn yn arbennig am yr ymryson farddol nodedig a fu rhyngddo ac Edmwnd Prys, 1581-87/8. Cyfeiriodd Prys ato fel 'Hudol gweniaith i Dolgynwal', ac mewn man arall fel:
Treiglwr gwawd [moliant], triagl y gân, Tafod Ysbyty Ifan.
Fel yr awgrymir gan ei enw, brodor o Ddolgynwal ydoedd, ac nid o Benmachno, fel yr arferid tybio unwaith. Fe'i cysylltir yn benodol a fferm Cerrigelltgwm yn ardal Ysbyty
Ifan. Ceir tystiolaeth, er enghraifft, iddo ddechrau ysgrifennu llyfr o'i
farddoniaeth yn y 'siarnbr' yno ar y 3ydd o Fai 1567. Yr oedd ganddo dir
hefyd yng Nghefnhirfynydd ym mhlwyf Cerrigydrudion.
Meddai Edmwnd Prys am y pencerdd o Ddolgynwal yn ei gywydd marwnad iddo:
Na ato Duvv fynd tad awen
O'r byd, rhaid rhoi cerdd ar ben ...
Tad mawl, mae mewn tywod man,
Tywod Ysbyty leuan.
Ar y dde wrth ochr y llwybr sy'n arwain o'r glwyd at yr Eglwys y mae carreg fedd wastad i goffau 'Sion Dafydd o Bentre Vidog'. a gladdwyd 5 lonawr 1769. Ar y garreg ceir dau englyn o waith ei hen ddisgybl, Twm o'r Nant. Dyma'r cyntaf:
Galar! i'r ddaear oer ddu - aeth athraw
Fu'n meithrin beirdd Cymru.
Llafurus bu'n llefaru
Diddan fodd y dyddiau fu.
A dyma ni nawr â'n golygon tuag at Gerrigelltgwm. Pan oedd Wiliam Cynwal yn byw yma (c. 1567 hyd 1588) un fferm ydoedd, fe ymddengys, ac ni wyddom pa un ai yng Ngherrigelltgwm Ucha ynteu yng Ngherigelltgwm Isa yr oedd ef yn trigo.
Yng Ngherigelltgwm Isa, fodd bynnag, yr oedd cartref Thomas Jones (1860-1932). Cyfeiriwyd ato'n fyr eisoes. Symudodd yma o Fryn Du, Cefn Brith, yn 1912. Bu farw yn Ysbyty Dinbych, 31 Hydref 1932, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Eglwys Fair, Cerrigydrudion. Yr oedd yn un o wyr mwyaf diwylliedig Bro Hiraethog ac yn barod bob amser i rannu'i ddysg a'i ddiwylliant ag eraill. Un o'i gymwynasau oedd cyhoeddi ei gyfrol werthfawr, Beirdd Uwchaled (1932). Cyhoeddodd nifer o ysgrifau diddorol mewn cyfnodolion, megis Y Faner, ac yr oedd hefyd, wrth gwrs, yn fardd. Ymddangosodd ei gyfrol gyntaf, Caneuon, yn 1902, a'r ail un, Pitar Puw a'i Berthynasan (yr orau o ddigon), yn 1932. Ysgrifennwyd cyflwyniad i'r gyfrol honno gan T Gwynn Jones. Pel y dengys casgliad o'i lythyrau ato, ystyriai Gwynn Jones y bardd o Gerrigelltgwm yn un o'i gyfeillion cywiraf ac yn fardd rhagorol.
Cerddi gorau Thomas Jones yw ei gyfresi o benillion telyn. Y mae'r rhain yn adlewyrchu ei ddiddordeb byw nid yn unig mewn cerdd dafod, ond hefyd mewn cerdd dant.
Dyma ni ym Mhant y Gorlan,
Curwch hefo'ch ffyn y dorlan;
Sa draw Mot, tyrd yma Pero,
Gwaeddwch fechgyn, pwyswn atyn,neu pasian eto!
Mi welais ferch wrth gamfa'r coed,
Y geina 'rioed, rwy'n meddwl,
Rhois iddi Ie merch marchog sir,
A doedd hi wedi'r cwbwl
Ond cywen fach o'r Ugain Ty
Fu'n magu plu yn Lerpwl!
Gwnaed cyfraniad gwerthfawr i Ganiadaeth y Cysegr yng Nghefn Brith hefyd gan Thomas Jones (1860-1932), Bryn Du. Symudodd yma o Dai Isa, Hafod Elwy, yn 1897. Fel ei gyfeillion agos T O Jones, Aelwyd Brys; Dafydd Jones, Tai Ucha, Hafod Elwy; Tom Owen, a Lewis T Evans, roedd yn fardd, yn gerddor, yn hynafiaethydd, ac yn fawr ei ddiddordeb yn llên a llafar ei fro. Ceir adlais o'i hoffter o alawon gwerin mewn pennill o'i gerdd 'Cwyn y Galon Drom' i gofio 'cyfaill cu':
Gofynnant imi ganu,
Fel yn y dyddiau fu,
'Orhoffedd Wiliam Owen'
A 'Cherdd y Deryn Du';
Does ganu ar fy nghalon,
Fy seiniau sydd yn siom,
A'r geiriau'n torri'n deilchion
Ar draeth y 'Galon Drom'.
Ym mhen isa'r fynwent, y tu cefn i'r Eglwys, mae bedd y cerddor T Osborne Roberts, priod Leila Megane. Iddi hi y cyfansoddodd ei gân enwog, 'Y Nefoedd'. Bu farw 22 Mehefin 1948, yn 69 mlwydd oed. Y mae'r garreg yn coffau hefyd ei rieni, Evan ac Effie Roberts, Y Siop, Ysbyty Ifan. Cerfiwyd yr englyn hwn o waith R Williams Parry ar y garreg:
Osborne hynaws, brenhinol - oedd ei wedd
A'i wisg yn wastadol,
Ond y ffin anniffiniol
A rôi dân i gân ei gôl.
Rhestr Llawn - Hanes
Traddodiad Cerddorol Ysbyty Ifan
Traddodiad Cerddorol Ysbyty Ifan.
www.ysbytyifan.org.uk
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Ysbyty Ifan.
