Dach chi yma: Hafan > Hanes > Sion Dafydd a'i gymdogion
Sion Dafydd a'i gymdogion
Mynd i fynwent y plwy Ysbyty Ifan i weld cyflwr bedd Siôn Dafydd wneis i, mae wedi diriwio yn arw yn y y blynyddoedd dwetha. Dyma y geiriau sydd bron mynd ar goll ar y llechen hynafol; S.R. Surgeon 1666 Anne Jones….ed o Medi ei hoed 59. SION DAFYDD o Bentre Vidog a gladdwyd 5ed dydd o fis Ionawr 1799 ei oed 94 ac wedyn dau englyn Galar – i’r ddaear ddu. Aeth athraw Fu’n meithrin beirdd Cymru; Llafurus bu’n llefaru Diddan fodd y dyddiau fu. Terfynodd, hunodd rhy hud – Siôn Dafydd ‘Madawai o hir fywyd Ond cofiwn etto cyfyd O’r ddaear bwys ddiwedd byd. Dau englyn yw y rhain gyfansoddwyd gan Thomas Edwards neu Twm o’r Nant a hynny i’w hen athro sef Siôn Dafydd. ‘Roedd (John Davies) Siôn Dafydd Berson neu Siôn Dafydd Glocsiwr yn byw ym Mhentrefoelas yn agos iawn i ble mae y siop heddiw. Ef oedd y darllenydd lleug olaf yn hen gapel Dôl yr Ywen, capel bach tô gwellt yn perthyn i’r fam eglwys yn Ysbyty Ifan. Mae yr hen goeden ywen unig lle safai’r capel yn dal i’w gweld heddiw gyferbyn a’r ysgol. Llawr clai oedd i’r capel wedi orchuddio â brwyn. Os byddai’r bregeth yn mynd yn hir, byddai y gynilleidfa yn dechrau pilio’r pabwyr a thaflu darnau brwyn at ei gilydd! Arwydd i’r hen Siôn brysuro i roi’r fendith.Disgrifir Siôn Dafydd fel gŵr hoffus, caredig a diwylliedig, athro a noddwr beirdd, a’i gartref yn fan cyfarfod i wŷr llên ei gyfnod Mae nifer o’i lawysgrifau i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn y llyfrgell Brydeinig yn Llundain. Bu farw dydd Calan 1799 yn 94 oed. Dywedodd Twm am ei hen athraw " mi aethym yn gyfaill …a hen ddyn oedd ym Mhentre’r Foelas, yn darllen yn y capel ar y Suliau ac yn clocsiau amserau eraill” Byddai Twm oedd ond tua 10 oed yn cerdded dros y mynydd o’r Nant Isa i gael gwersi gan Siôn Dafydd er fod ei dad yn ddig iawn wrtho am wastio amser . Erbyn hyn gwelwn mor werthfawr fu taith Twm o’r Nant i Bentrefoelas am ei wersi. Credaf fod yr hen fedd yma o werth hanesyddol a’i bod yn ddyledswydd arnom edrych ar ei ôl. Wrth gerdded yn ôl ar hyd y llwybr o’r eglwys dyma gymeryd munud i edrych ar enwau eraill oedd yn y pentre tawel yma, gan gofio pennill J. L. Williams Llanfairpwll, Meini’n cydnabod colled cymdeithas Yn arwydd o barch teulu, At y rhain daw haneswyr am dystiolaeth I ddiogelu etifeddiaeth,….. Pentref y meirw, Enwau pobl a’u tai, Cofadail cyfoedion, A’r cofio’n rhoi cysur i’r byw…… ‘Roedd Siôn Dafydd wedi cael oes hir, yn 94 oed yn cael ei gladdu, ond ‘roedd llawer o’r enwau ger llaw iddo yn blant neu bobl ifanc. Efallai nad yw’r enwau geir ar y meini cerrig mor enwog na chymaint wedi ei ysgrifennu amdanynt ac am Siôn Dafydd ond mae llawer o hanes i’r rhain hefyd. Hanesion am fywyd pobl gyffredin oedd yn byw yn yr ardal, a dyma ddod ar draws yr ychydig . Y digwyddiad cyntaf ddaeth i’m sylw oedd newid "meistr tir” yr ardal. Cymerodd hyn le tua’r flwyddyn 1850, pryd y daeth arglwydd Penrhyn i feddiannu’r tir. Cyn hyn arglwydd Mostyn oedd y perchennog. Daeth y digwyddiad yma a llawer o newid i’r ardal, Gan nad oedd yr arglwydd Penrhyn yn hoffi cael tafarndai ar ei stad tynnwyd trwydded oddi ar ddwy o dafarndai lleol, sef trwydded Tŷ Newydd Mynydd, ac hefyd trwydded Pen y Bont, neu fel y gelwid hi yr adeg honno Pengwern Arms. Bu y newidiadau hyn yn llesol iawn i’r ardal, oherwydd arferai y "Pengwern Arms” fod yn lle drwg iawn am helyntion oherwydd goryfed. Ond i fynd yn ôl at gymdogion Siôn Dafydd….Tua’r flwyddyn 1842 torrodd clefyd mawr allan yn Hafod Ifan. Yr oedd Sarah y ferch wedi bod yng Nghaernarfon, a thra yno aeth ar fwrdd llong oedd wedi dod yno o bellter byd. A chredir iddi ddod a’r clefyd adre gyda hi. Yr oedd yn glefyd mor heintus fel y cafodd Bob Roberts y gwas ef oddiwrthi wrth ei chario i’r tŷ. Bu farw ohono, ond fe ddaeth Sarah yn well ar ôl hir amser. Aeth y forwyn ar clefyd adre gyda hi i Gwernoua, a bu ei thad yntau farw ohono. Claddwyd rhai o deulu Graig Ddu o’r un afiechyd. ‘Roeddynt yn berthnasau i deulu Hafod Ifan ar tebyg yw eu bod wedi mynd i Hafod Ifan i ymweld, ac wedi dal yr afiechyd. Gorffennaf 1881 torrodd y clefyd mawr sef y frech wen allan yng Nghwm Eidda. Yr oedd Elizabeth Jones Pen y Geulan wedi bod yn edrych am ei merch yn Warrington a daeth adre gan nad oedd yn teimlo yn dda. Aeth pawb yn wael yno a bu farw Elizabeth Jones. Daeth Owen Jones Bont Eidda a Thomas Williams Fron Ddu yno i’w rhoi yn yr arch a chawsant hwy y clwyf. Bu farw Thomas a Marged Williams Fron Ddu, a thrist yw’r hanes am hen wraig Bont Eidda yn mynd i’r ffenest i edrych oedd ei gŵr Owen Jones wedi darfod. Yr oedd yr afiechyd mor heintus fel na chai neb fynd yn agos atynt, byddai ei neges o’r Llan yn cael ei adail ar ganol cae iddynt fynd i’w nôl. Bendith mawr i’r holl ardalwyr oedd i’r cywpog gael ei roi i bawb yn y gymdogaeth ar ôl hyn, a threchwyd y clefyd. ‘Roedd deddfau gwlad yn rhwystro agor beddau y rhai oedd wedi dal yr afiechyd am dros ugain mlynedd. Ceir dau fedd gwahanol i deulu Fron Ddu un i Thomas Williams a’r llall i Marged Williams. Hefyd pan fu farw gwraig Bont Eidda ymhen amser ar ôl ei gŵr, bu yn rhaid iddi hithau gael bedd newydd iddi ei hun. Y digwyddiad nesaf i ymwneud ag afiechyd yn yr ardal oedd y ffliw mawr a ysgubodd trwy y wlad yn 1918 a daeth i’r ardal yma ym 1919. Digwyddiad anghyffredin oedd gweld tri ar ddeg o’r boblogaeth fechan yn cael ei claddu mewn llai na thair wythnos. Ar y dydd byraf o 1918 yr oedd tri angladd yn y Llan, dau ohonynt o’r un tŷ, sef Tomi Roberts Pandy a dau o blant Mr a Mrs Davies Church View. Gwelwyd wedyn yn Ionawr 1918 ddau yn cael ei claddu ar yr un diwrnod Ym 1918 hefyd marwodd dyn cryf iach o’r enw Ellis Roberts ag afiechyd cymharol ddiethr yr adeg honno sef "appendicitis”. Ceisiodd y meddyg fynd ag ef i’r ysbyty ar frys, ond tra buont yn gwneud y trefniadau, bu farw, oherwydd yr adeg honno nid oedd unman yn nes na Lerpwl i wneud llawdriniaeth o’r fath. Nid oes sôn am afiechydon wedyn hyd 1933, ar ôl trip ysgol Sul torrodd clefyd y diphtheria allan yn Pandy Coch. Aethpwyd ar wraig a’i dau blentyn bach i ffwrdd i’r ysbyty lle bu farw y ferch ieuengaf ohono. Ceir hanesion eraill am bobl yn colli ei bywydau mewn stormydd eira, pobl fel William Lloyd Trwyn Swch, Jack Davies Têman(gan mai gwerthwr tê oedd ei dad) Rhai eraill yn cael trafferth cyrraedd y fynwent, mae cofnod am hen wraig Trawsnant "yr hon arferai smocio fel dyn” oedd wedi bwriadu cael ei chladdu yn Llanecil yn gorfod cael ei chario ar sled a’i chladdu yn Ysbyty oherwydd fod yr eira mor ddwfn. Noson ei chladdedigaeth bu farw Morris Jones, gwas y Pennant o’r llid oherwydd method y meddyg a chyrraedd ato mewn pryd oherwydd storm eira, a chafwyd trafferth mawr ei gael ef i lawr i’r Llan i’w gladdu. Ceir hanes cynhebrwng anghyffredin o fawr , na welwyd ei debyg yn Ysbyty, sef Dr Davies, Bron Afallen ym Mawrth 1881, a gyrraedda o Ben Bryn Cyrff, ger Plas Ucha i’r Llan. Oes, mae yna lawer iawn o hanesion yn perthyn i bob un o’r mynwentydd lleol, a mae rhain hefyd yn werth cael eu cofnodi. Gobeithio na wneis eich digaloni ormod. Ar y llaw arall er ein bod ni yn cwyno digon y dyddiau hyn.. mae ni yn dda iawn arnom ni pan welwn ni pa mor galed oedd bywydau cymdogion Sion Dafydd.
Rhestr Llawn - Hanes
Sion Dafydd a'i gymdogion
Sion Dafydd o Bentrefoelas, athro Twm o'r Nant
www.ysbytyifan.org.uk
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Ysbyty Ifan.
