ysbyty ifan betws-y-coed snowdonia north wales

english english version

hafan :: hanes :: newyddion

Dach chi yma: Hafan > Hanes > Llinell Amser Ysbyty Ifan

Llinell Amser Ysbyty Ifan

Gorffenaf 15eg 1099
Ganwyd Urdd Marchogian Sant Ioan yng Ngaersalem ar diwedd Ryfel Cyntaf y Groes.

Ychydig cyn 1148
Adeiladwyd Ysbyty cyntaf Urdd Marchogian Sant Ioan yn Slebech, Sir Benfro.

Diwedd y G12
Sefydlwyd Eglwys ac Ysbyty Ioan Fedyddiwr gan Farchogion Urdd Sant Ioan yn Nôl Gynwal (sef Ysbyty Ifan heddiw).

Tua 1222
Rhoddodd Llywelyn Fawr ganiatâd ar gyfer sefydliad ysbyty yn Nolgynwal (Ysbyty Ifan heddiw) trwy siarter: "mewn elusen rydd i dy'r Ysbyty Jerwsalem yn Nolgynwal, y cyfan o Eglwys Ellesmere i angen y tlawd yng Nghrist".

1282
Ednyfed oedd meistr yr ysbyty a dan ei orchwyl ef y derbyniodd yr ysbyty £95 fel iawndal am y difod a wnaed gan fyddin Edward I.

1291
Fel diolch am ei gwaith da, esgusodwyd yr ysbyty rhag talu trethi gan y Goron.

1400
Llosgwyd yr ysbyty gan dân yn ystod Gwrthryfel Glyndwr.

G15
wedi Gwrthryfel Glyndwr ar ddechrau'r G15, dirywiodd gyfraith a threfn yn ardal Ysbyty Ifan, a daeth yn enwog fel lloches ar gyfer troseddwyr.

Tua 1461
Roedd Ysbyty Ifan mor adnabyddus am ei letygarwch a'i groeso, cymharodd Dafydd Nanmor haelioni Rhys o Dywyn gyda chroeso Ysbyty Ifan:
"Ty fel Yspytty Ieuan
Fu ei dy am fwy i wan."

1485
Brwydyr Bosworth, rhwng byddinoedd Richard III o Loegr a Harri Tudur. Rhys ap Maredudd oedd Banerwr Harri Tudur ar faes Bosworth.

Teyrnasiad Harri VII a Harri VIII (1485-1547)
Bu Robert ap Rhys, mab Rhys ap Maredudd yn gaplan yn llysoedd Harri Tudur ai' fab, Harri VIII. Bu hefyd yn gaplan i'r Cardinal Wolsey. Wedi Deddfau Diddymu'r Mynachlogydd (1536-38), derbyniodd lawer o dir yn Ysbyty Ifan ac ym mhlwyf Llanfor, Sir Feirionnydd.

1490
Daeth Maredudd ap Ifan i fyw yng Nghastell Dolwyddelan, gyda'r bwriad o erlid troseddwyr o'r ardal. Yna, gyrrodd ei fyddinoedd i Ddinas Mawddwy a daethpwyd i'w hadnabod fel Gwylliaid Cochion Mawddwy.

1485
Daeth Harri Tudur, sef Harri VII, yn frenin Lloegr.

Tua 1512
Ganwyd Elis Prys, Plas Iolyn a adnabyddir fel y Doctor Coch. Roedd ganddo rôl blaenllaw yn niddymu'r Mynachlogydd yn ystod y 1530au dan Harri VIII a Thomas Cromwell. Bu'n weithgar fel Aelod Seneddol a Sirf, yn gofalu tros siroedd Môn , Meirionnydd, Caernarfon a Dinbych ar wahanol adegau. Roedd yn un o'r comisiynwyr a apwyntiwyd gan Elisabeth I i gynnal Eisteddfod Caerwys, 1567.

1529-40
Y Diwygiad Protestannaidd yng Nghynru a Lloegr.

1537
Diddymwyd Ysbyty Urdd Marchogian St. Ioan fel rhan o Ddeddf Diddymu Mynachlogydd Harri VIII - Urdd Babyddol oedd Urdd St. Ioan.

1540
Ni fu llawer o groeso i'r Urdd Babyddol dan y drefn Brotestannaidd newydd, ac fe'i diddymwyd. Y Goron dderbyniodd ei holl eiddo.

Tua 1564
Ganwyd Tomos Prys, Plas Iolyn (sef mab Elis Prys). Roedd yn enwog fel bardd a môr leidr, gan ymladd yn yr Iseldiroedd dan orchymyn larll Caerlyr ac yn Tilbury yn erbyn ymosodiad yr Armarda. Ceir canmoliaeth arbennig i'w farwnadau i Prys Gruffydd ac i'w feibion, Elis a Hanibol. Bu'n ymryson gydag Edmwnd Prys yn ogystal.

1700
Bu farw Richard Vaughan, Pant Glas (sef mab Robert ap Rhys). Roedd Richard Vaughan yn un o'r Poor Knights of Windsor: cafodd ei anafu yn ystod y Rhyfel Cartref. Gadawodd arian yn ei ewllys er mwyn adeiladu elusendy i ddynion yn Ysbyty Ifan. Fe'i gladdwyd yng Nghastell Windsor.

1799
Bu farw Siôn dafydd Berson (Glocsiwr) ac fe'i gladdwyd ym mynwent Ysbyty Ifan. Ceir englynion iddo gan Twm o'r Nant ar ei garreg fedd:

S.R. Surgeon. 1666 Anne Jones ... Ed o Medi ei hoed 59.
Siôn Dafydd o Bentre Vidog a gladdwyd 5ed dydd o fis Ionawr 1799 ei oed 94.

Galar - i'r ddaear ddu, Aeth athraw
Fu'n meithrin beirdd Cymru;
Llafurus bu'n llefaru
Diddan fodd, y dydd a fu.

Terfynodd, hunodd rhyw hyd - Siôn Dafydd
'Madawai o hir fywyd
Ond cofiwn eto cyfyd
O'r ddaear bwys ddiwedd byd.

Diwedd G18-19
Daeth y bardd, Gwalter Mechain (sef Walter Davies) yn gurad yn Ysbyty Ifan.

1847
Cyfeiriwyd at Ysgol Ysbyty Ifan yn Adroddiad Addysg enwog 1847 sef Brad y Llyfrau Gleidion.

"IN THE CHURCH SCHOOL UPON MADAM BEAVON'S FOUNDATION AT YSPYTTY IFAN:-
There were no scholars present due to the ill health of their master, who is severly afflicted with the cancer. The school is held in a part of the parish church, separated by a partition for the purpose. It was very dirty and ill ventilated. The furniture consists of a few old benches taken out of the church, and one small desk; they are insufficient for the purpose, and were filthy with smoke. The master has been engaged in teaching for 26 years, but was never trained for the purpose. He couls speak very few words of English; he was living in a miserable cottage, and appeared dirty and very poor." - Gwefan Ll.G.C.

1857
Agorwyd yr ysgol bresennol, sef Ysgol Ysbyty Ifan.

1861
Adeiladwyd yr Eglwys wreiddiol yn Ysbyty Ifan yn ystod yr Oesoedd Canol, gyda chapel bob ochr iddi - y naill ar gyfer teulu'r Foelas a'r llall ar gyfer teulu Pant Glas. Defnyddiwyd cefn yr adeilad fel ysgol ond yn ystod y G19, tynwyd yr holl adeilad i lawr, gan adeiladu'r Eglwys bresennol yn 1861.

1921
Ganwyd y bardd Huw Selwyn Owen yn Ysbyty Ifan.

1948
Claddwyd y cyfansoddwr, Osborne Roberts, ym mynwent Ysbyty Ifan.

1964
Cyhoeddwyd nofel Saunders Lewis, Merch Gwern Hywel, am Sarah Jones, merch Gwernhywel Ganol, a redodd i ffwrdd i briodi'r gweinidog Efengylaidd William Roberts, Amlwch. Arweiniodd y briodas hon at farwolaeth ei brawd. Roedd Sarah Jones yn hen fodryb i Saunders Lewis.

2007
Dathlodd Ysgol Ysbyty Ifan ei 150 mlwyddiant:

Tywynnodd gant a hanner - o hwyl oes
Ysgol hardd llawn 'sblander,
A ni, bob oes, gofiai'n ber
Ei blas oedd dysg o bleser

- John Ty Ucha

Bedd Sion Dafydd

Bedd Sion Dafydd

Ysgol Ysbyty Ifan 1910

Ysgol Ysbyty Ifan 1910

Rhestr Llawn - Hanes

Sion Dafydd a'i gymdogion

Sion Dafydd o Bentrefoelas, athro Twm o'r Nant

 

Llafar Gwlad

Llafar gwlad Ysbyty Ifan.

 

Byd Natur

Y byd natur o gympas Ysbyty Ifan.

 

Cyngor Cymuned

Cyngor Cymuned Ysbyty Ifan yn cfarfod bob chwech wythnos

 

Llinell Amser Ysbyty Ifan

Llinell Amser Ysbyty Ifan

 

Abraham Lincoln

Mae Hen Nain Abraham Lincoln yn dwad o Ysbyty Ifan.

 

Traddodiad Cerddorol Ysbyty Ifan

Traddodiad Cerddorol Ysbyty Ifan.

 

Cymeriadau Lleol

Cymeriadau o Ysbyty Ifan

 

www.ysbytyifan.org.uk