ysbyty ifan betws-y-coed snowdonia north wales

english english version

hafan :: hanes :: newyddion

Dach chi yma: Hafan > Hanes > Cymeriadau Lleol

Cymeriadau Lleol

Robert Price

(1655-1733), barnwr; g. 14 Ionawr 1655, ail fab Thomas Price, Giler, plwyf Cerrig-y-drudion, a Margaret, merch ac aeres Thomas Wynne, Bwlchybeudy, yn yr un plwyf. O ysgol Rhuthyn aeth i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, 28 Mawrth 1672, ond ymadawodd heb raddio a chael ei dderbyn yn Lincoln's Inn, 8 Mai 1673, a dyfod yn fargyfreithiwr ym mis Gorffennaf 1679. Cyhoeddwyd cofiant (defnyddiol ac eithaf diddorol) iddo, The Life of … Robert Price … One of the Justices of His Majesty's Court of Common-Pleas, gan E. Curll, Llundain, yn 1734, a cheir manylion ei yrfa yn y D.N.B.; rhaid, felly, fodloni ar fraslun byr yma. Dechreuodd ei yrfa gyfreithiol pan ddewiswyd ef yn ‘Attorney-general for South Wales,’ 1682. Daeth yn gofiadur Maesyfed yn 1683, a bu'n dal amryw swyddi hyd nes y daeth yn farnwr cylchdaith Brycheiniog yn 1700. Fe'i dewiswyd yn un o farwniaid yr Exchequer, 24 Mehefin 1702, a daeth yn un o farnwyr llys y Common Pleas, 16 Hydref 1726. Cyn hyn yr oedd wedi ei enwogi ei hun yn y Senedd, lle bu'n aelod dros Weobley fwy nag unwaith, yn enwedig pan wrthwynebodd, 1695-6 — a hynny yn llwyddiannus — fwriad y brenin William III i roddi arglwyddiaethau Dinbych, Bromfield, a Iâl i Hans Williams Bentinck, Is-Almaenwr a ffefryn arbennig gan y brenin a'i creodd yn iarll Portland. Daeth Price i gymaint enwogrwydd yn yr achos hwn nes ennill iddo'i hun y teitl ‘the patriot of his native country.’ Wedi i'r brenin farw cyhoeddwyd, 1702, dwy araith Price ar y mater hwn o dan y teitl Gloria Cambriae: or the Speech of a Bold Briton in Parliament against a Dutch Prince of Wales — gw. Somers, Collection of Tracts, 1814, xi, 387-93.

Priododd, 23 Medi 1679, Lucy, merch hynaf Robert Rodd, Foxley, sir Henffordd, a bu iddynt dri phlentyn: yr aer oedd Uvedale Tomkyns Price. Argreffir manylion llawn am ei ewyllys gan E. Curll (op. cit.). Yr oedd yn gyfoethog a chanddo diroedd lawer yng Nghymru. Cododd a gwaddolodd dŷ elusen i chwech o bobl dlawd ym mhlwyf Cerrig-y-drudion. Bu f. yn Kensington, 2 Chwefror 1733, a'i gladdu yn Yazzor, sir Henffordd.

Rhestr Llawn - Hanes

Sion Dafydd a'i gymdogion

Sion Dafydd o Bentrefoelas, athro Twm o'r Nant

 

Llafar Gwlad

Llafar gwlad Ysbyty Ifan.

 

Byd Natur

Y byd natur o gympas Ysbyty Ifan.

 

Cyngor Cymuned

Cyngor Cymuned Ysbyty Ifan yn cfarfod bob chwech wythnos

 

Llinell Amser Ysbyty Ifan

Llinell Amser Ysbyty Ifan

 

Abraham Lincoln

Mae Hen Nain Abraham Lincoln yn dwad o Ysbyty Ifan.

 

Traddodiad Cerddorol Ysbyty Ifan

Traddodiad Cerddorol Ysbyty Ifan.

 

Cymeriadau Lleol

Cymeriadau o Ysbyty Ifan

 

www.ysbytyifan.org.uk